Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Hydref 2012
Adroddiad ar yr amserlen ar gyfer ystyried Bil Safleoedd
Rheoleiddiedig Cartrefi Symudol (Cymru)
1. Ar 24 Hydref 2012, cafodd Bil Aelod, ‘Bil Safleoedd Rheoleiddiedig Cartrefi Symudol (Cymru)’, ei gyflwyno yn y Cynulliad.
2. Ar 23 Hydref 2012, cytunodd y Pwyllgor Busnes, yn unol â Rheol Sefydlog 26.9, i gyfeirio’r Bil at y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, er mwyn iddo ystyried yr egwyddorion cyffredinol a chyflwyno adroddiad arnynt.
3. Yn unol â Rheol Sefydlog 26.7, trefnodd y Pwyllgor Busnes amserlen i’r Pwyllgor ystyried egwyddorion cyffredinol y Bil a chytunodd y dylai’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad i’r Cynulliad erbyn 22 Chwefror 2013.
4. Cytunodd y
Pwyllgor Busnes hefyd y dylid cwblhau trafodion Cyfnod 2 erbyn 10
Mai 2013, ar yr amod bod y Cynulliad yn cytuno ar egwyddorion
cyffredinol y Bil.